|
|||||
ABERFFRAW |
|||||
Hanes
Cyfieithiad gan Allen
|
|||||
Yn hanesyddol roedd
Aberffraw yn safle fflintiau Mesolithic (7000cc), yn fan
twmpath claddu Oes yr Efydd (1500cc) ac yn gaer filwrol
Rufeinig ond mae’n fwy adnabyddus fel prifddinas
ganoloesol Mon a Chymru. Yma roedd Plas Brenhinol neu Lys
Brenhinoedd a Thywysogion Gwynedd. Yma roedd Brenin
y Brythoniaid a codwyd ei Lys yn 450oc (rhyw 50 llath i’r
Gogledd o fwthyn Pendref yn ardal Maes Llywelyn). Roedd Llys Aberffraw yn rheoli am 8 canrif drwy gyfnod Rhodri Mawr (870 oc), sefydliad y Gyfraith Gymraeg (900oc) gan oroesi ymosodiadau gan y Northmyn, y Gwyddelod a’r Normaniaid. Yn 12fed ganrif daeth Aberffraw i fod yn un o’r dair brif orseddau Prydain ac yn brifddinas Cymru dan reolaeth Llywelyn Fawr. Ar ol yr oes ddisglair hon roedd rhaid i’r Cymru ildio i Frenin Lloegr, Edward y 1af yn 1282 a cafodd tir Aberffraw ei basio mlaen i deuluoedd y Meyricks, Bodorgan a’r Owens, Bodowen. Cafodd defnyddiau’r Llys eu symud i adeiladu Castell Biwmares. Yn Aberffraw hefyd ganwyd tad y Brenin Albanaidd, Richard yr Ail. Yn fwy diweddar roedd gan y Tywysog William a’i wraig, Kate gartef gerllaw hyd at enedigaeth eu mab, George sydd hefyd yn debygol o fod yn Frenin Prydain rhyw bryd. Ym mytholeg Cymraeg priodwyd Branwen a Matholwch yn Aberffraw. Ar dir uchaf y pentref mae eglwys 12fed ganrif St Beuno a dwy filltir i’r Dwyrain cawn Eglwys St Cadwaladr sydd efo gwreiddiau yn y 6ed ganrif. Milltir i’r Gorllewin mae Eglwys St Cwyfan neu “Eglwys Fach y Mor”. Ar un adeg roedd Aberffraw yn borthladd prysur yn allforio cynnyrch Mon ac yno hefyd roedd llongau pysgota mawr. Pa fodd bynnag ar ol y Storm Fawr yn 1331 bu newid yn y tirwedd ar hyd yr afon nes yn y diwedd daeth pwysigrwydd Aberffraw fel porthladd i ben nid yn unig oherwydd effaith y storm ond hefyd oherwydd unigrwydd daearyddol yr ardal o safbwynt trafnidiaeth. Yn y 1940au cafodd Aberffraw ei gyhoeddi fel y pentref mwyaf tlawd ar Ynys Mon ac erbyn y 1950au a’r 60au roedd llawer o fythynnod gwyn bychain traddodiadol y pentref mewn cyflwr difrifol a cawsant eu chwalu. Cafodd tai cyngor eu hadeiladu wedyn a mae un stad ar leoliad Palas hanesyddol y Tywysogion. Cadwyd rhai o’r bythynnod traddodiadol diolch i ymdrechion awdurdodau cadwraeth y 1980au a felly mae rhan o gymeriad y pentref wedi aros hyd heddiw. Heddiw mae gan y pentref Neuadd Pentref fywiog (ers y 50au), oriel, ty tafarn, caffi a swyddfa bost. Tai haf yw llawer o dai y pentref erbyn hyn a Saeson sydd yn berchen ar y rhan fwyaf ohonynt. Gallwn ddadlau bod hyn yn cadw’r diwydiant twristiaeth yn fyw ond mae’n creu niwed i ddiwylliant Cymraeg y pentref. |
|||||
Dyddiadau allweddol:-
|
|||||
Rhai adeiladau
pwysig:-
|
|||||
Brig | |||||
2
Chwefror 2020, MM
|